CLWB GYMNASTEG ERYRI : HEN NEWYDDION

Newyddion Ionawr 7fed:

Girls Competiton Dec 2010

Llongyfarchiadau i Kirsty, Sophie, dewi, Buddug a Mared am ennill gwobr yn Noson Wobrwyo Gymnasteg Gogledd Cymru ar y 7fed o Ionawr yng Nghaernarfon. Yno gwobrwywyd dycnwch, ymroddiad a llwyddiannau gymnastwyr a chynorthwywyr dros y flwyddyn a aeth heibio. Da iawn bawb!

Newyddion Ionawr 5ed:

Holly

Diolch o galon i Kenny Robets o gwmni Toeau Bangor Roofing am gyfrannu'r gwobrau ar gyfer diwrnod ola'r tymor. Diolch!

Newyddion Rhagfyr 5ed, 2010:

Llongyfarchiadau i Dîm Gymnasteg Eryri a sicrhaodd 14 o fedalau yng Ngystadleuaeth Dechreuwyr Gogledd Cymru yng Ngholeg Llandrillo ar Ragfyr 5ed.

10/11:
Naid: Helen and Chloe Cydradd 1af.
Trawst: Helen 3ydd.
Llawr: Buddug 1af, Angharad 2il.

8/9:
Naid: Elan 2il, Jesikah 3ydd.
Llawr: Nia 1af, Mared & Elan Cydradd 2il, Ffion Erin 3ydd.
Bar: Beca 1af, Nia 2il.

6/7:
(Terfynol) Mika 3ydd & Bessie 4ydd!

Canlyniad gwych! Llongyfarchiadau i bawb fu'n cystadlu a diolch o galon i'r hyfforddwyr am yr holl waith paratoi.

Girls Competiton Dec 2010

Newyddion Tachwedd 7fed 2010:

Llongyfarchiadau i Rowan a Kyle a enillodd fedalau arian yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Dechreuwyr Bechgyn Gogledd Cymru ar Dachwedd 7fed yn Queensway, Wrecsam. Da iawn chi!

 

Newyddion Mawrth 28ain 2010:

Gall gymnastwyr archebu copi o lun y Clwb ar gyfer 2010 ar ddechrau'r tymor newydd.

 

Newyddion Mawrth 21ain 2010:

Canlyniad Cystadleuaeth Tymblo a Neidio Ysgolion - Caerdydd - Mawrth 2010 - Llawrlwytho Canlyniadau (166kb zip file). 

 

Newyddion Mawrth 1af 2010:

Llongyfarchiadau i Aaron a Rhiannon ar gael eu dewis ar gyfer Carfan Tymblo Cymru ac i Jamie ar gael ei ddewis ar gyfer Carfan Ddatblygu 2010.

 

Newyddion Chwefror 7fed, 2010:

Mynychodd tîm o Glwb Gymnasteg Eryri Bencampwriaeth Tymblo’r NDP yng Nglannau Dyfrdwy heddiw. Llongyfarchiadau i Aaron (Aur), Jamie (Efydd), Alaw (Efydd), Rhiannon (4ydd), Catrin (6ed). Canlyniad ardderchog – da iawn wir! Yn awr caiff Aaron y cyfle i fynd ymlaen i'r rownd derfynol Prydeinig yn Stoke on Trent.

News Ionawr 10fed,  2010:

North Wales Award Winners 2009North

Llongyfarchiadau i Jenny, Rhiannon, Pete, Brenda, Ffion ac Ala war ennill gwobrau yn Noson Wobrwyo Gymnasteg Gogledd Cymru. Cynhaliwyd y noson yn Llandudno ar y 9fed o Ionawr, noson oedd yn cydnabod dycnwch, ymroddiad a llwyddiannau gymnastwyr a’u cymorthyddion dros y flwyddyn a aeth heibio.

Hefyd, derbyniodd John Pike Wobr Gogledd Cymru er Anrhydedd am ei gyfraniad eithriadol i Gymnasteg Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Newyddion Rhagfyr 9fed, 2009:

Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr ac enillwyr a fynychodd Gystadleuaeth Gymnasteg Gogledd Cymru i Ddechreuwyr Trwy Wahoddiad yng Ngholeg Llandrillo ar Ddydd Sul, Rhagfyr 6ed 2009. Canlyniad ardderchog i’n gymnastwyr newydd. Gwaith da hefyd gan yr hyfforddwyr!!
Helen Hurst: Aur (vault).
Ffion Roberts: Aur (llawr) &Arian (trawst).
Nia George: Arian (llawr) & Efydd (vault).
Kaitlyn Hughes: Aur (vault) & Aur (llawr).

Newyddion Tachwedd 16eg, 2009:                  

Llongyfarchiadau i Heidi ar enedigaeth merch fach – Ella Louise Parker. Da iawn!!

Newyddion Tachwedd 9fed, 2009:

Llongyfarchiadau i Aaron, Rhiannon ac Alaw a fynychodd Bencampwriaeth Tymblo Cymru yn Hwlffordd ar Dachwedd yr 8fed, 2009. 
Enillodd Aaron fedal aur – pencampwr Cymru dros 17oed – Grwp Uwch
Enillodd Rhiannon fedal efydd yn y grwp caonlradd 13/14 oed.
Llongyfarchiadau hefyd i Alaw a wnaeth yn arbennig o dda yn ei grwp a sicrhau’r 4ydd safle yn ei chystadleuaeth genedlaethol gyntaf!

Newyddion 9fed o Dachwedd 2009:

Llongyfarchiadau i Aaron, Rhiannon ac Alaw a fynychodd Bencampwriaeth Tymblo Cymru yn Hwlffordd ddydd Sul, Tachwedd 8fed, 2009. Roedd pob un ohonynt wedi gwneud eu gorau. Enillodd Aaron Fedal Aur - Pencampwr Cymru yng Nghategori Arbenigwyr 17+oed.
Derbyniodd Rhiannon Fedal Efydd yn nghategori Canolradd 13/14oed.
Llongyfarchiadau hefyd i Alaw am wneud yn dda iawn yn ei grwp.

Newyddion Hydref 11eg 2009:

Competiton Pic

Llongyfarchiadau i'r holl gymnastwyr a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Tymblo flynyddol Eryri ac Ynys Mon ddydd Sul. Cafwyd perffomiadau gwych gan yr holl gymnastwyr. Llongyfarchiadau i bawb . Roedd sgor pob cystadleuydd yn cyfrif , a llwyddwyd i adennill y tlws ar gyfer 2009-2010!

Newyddion Gorffennaf 13eg, 2009:

SiemensAr ran yr hyforddwyr a gymnastyr Clwb Gymnasteg Eryri, hofem gyfleu ein gwerthfawrogiad i gwmni Siemens am eu cefnogaeth ariannol hael. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu diddordeb yn ein mudiad a byddwn yn sicrhau y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio er sicrhau parhad yn natblygiad a hyfforddiant ein gymnastwyr a'u hyfforddwyr.

Newyddion 22 Mai, 2009.

Y mae lluniau digidol o enillwyr Cystadleuaeth Gymnasteg Canolfannau Hamdden Caernarfon, Penygroes a Bethesda ar Fai 16eg ar gael rwan. Os bu i'ch plentyn dderbyn medal ac os hoffech gopi o'r llun trwy e-bost, holwch eich hyfforddwr am ffurflen gais am lun.

Newyddion Ebrill 30ain, 2009.

Mae David Morris, Sally Jones a Gwenllian Baum-Jones wedi mynychu Cwrs Beirniad Tymblo, wedi sefyll eu harholiadau ac wedi pasio!  Llongyfarchiadau i'r tri ohonynt!