CLWB GYMNASTEG ERYRI : CARTREF

Croeso i wefan Clwb Gymnasteg Eryri.

Newyddion Chwefror 7fed, 2010:

Mynychodd tîm o Glwb Gymnasteg Eryri Bencampwriaeth Tymblo’r NDP yng Nglannau Dyfrdwy heddiw. Llongyfarchiadau i Aaron (Aur), Jamie (Efydd), Alaw (Efydd), Rhiannon (4ydd), Catrin (6ed). Canlyniad ardderchog – da iawn wir! Yn awr caiff Aaron y cyfle i fynd ymlaen i'r rownd derfynol Prydeinig yn Stoke on Trent.

News Ionawr 10fed,  2010:

North Wales Award Winners 2009North

Llongyfarchiadau i Jenny, Rhiannon, Pete, Brenda, Ffion ac Ala war ennill gwobrau yn Noson Wobrwyo Gymnasteg Gogledd Cymru. Cynhaliwyd y noson yn Llandudno ar y 9fed o Ionawr, noson oedd yn cydnabod dycnwch, ymroddiad a llwyddiannau gymnastwyr a’u cymorthyddion dros y flwyddyn a aeth heibio.
 Hefyd, derbyniodd John Pike Wobr Gogledd Cymru er Anrhydedd am ei gyfraniad eithriadol i Gymnasteg Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.