CLWB GYMNASTEG ERYRI : CWESTIYNAU
C. Pam mae fy mhlentyn wedi cael gwahoddiad i sesiwn dreialu yng Nghlwb Gymnasteg Eryri?
A. Mae Clwb Gymnasteg Eryri yn dewis gymnastwyr sy’n arddangos addewid ac ymroddiad i ddatblygu eu sgiliau gymnasteg.
C. Faint yw cost y gwersi?
A. £2.50 yr awr ar hyn o bryd yn ogystal â ffi yswiriant blynyddol Gymnasteg Prydain (£15.00) ac aelodaeth blynyddol y clwb (£15.00)
C. Ble mae Clwb Gymnasteg Eryri yn ymarfer?
A. Mae Clwb Gymnasteg Eryri yn ymarfer bob Dydd Sul yn ystod y tymor ym Mhlas Silyn, Pen y Groes, gweler y map.
C. Ble mae’r cyfarwyddiadau?
A. Cymrwch yr A483 i Ben y Groes a throwch ar Ffordd y Sir ( County Road) ger Banc yr HSBC ar y stryd fawr. Ewch heibio gorsaf yr heddlu ( ar y dde) ac ewch ymlaen am 500metr nes cyrraedd Plas Silyn ar eich chwith.
C. Gawn ni aros i wylio?
A. Cewch. Mae gan Blas Silyn oriel wylio eang yn ogystal â chaffi sy’n gwerthu diodydd oer a phoeth a phrydau ysgafn.
C. Fydd angen prynu offer arbenigol?
A. Disgwylir i aelodau’r clwb brynu leotard y clwb ar gyfer sesiynnau hyfforddi a chystadlaethau. Y gost yw £40 a gellir eu prynu gan Frances Lewis.
C. Ydi gymnastwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau?
A. Ydyn. Anogir gymnastwyr i gystadlu ar lefelau lleol, sirol a chenedlaethol. Caiff gymnastwyr gyfle i gystadlu mewn oddeutu 5 cystadleuaeth y flwyddyn.
C. A fydd angen i'm plentyn barhau i fynychu’r gwersi wythnosol yn y ganolfan hamdden?
A. Bydd. Y mae’n amod gennym yn aelodaeth y clwb fod y disgyblion yn parhau i fynychu’r sesiynnau elfennol hyn yn eu canolfan hamdden leol.
C. Oes gan y clwb hyfforddwyr Cymraeg?
A. Oes wir! Mae’r rhan fwyaf o’n hyfforddwyr yn gwbl ddwyieithog.
C. Sut allwn i helpu?
A. Nid mudiad gwneud elw yw Clwb Gymnasteg Eryri, ac rydym yn ddibynnol ar gefnogaeth rhieni. Yn benodol, hoffem help gyda:
- Gosod offer cyn sesiynnau, a’i gadw ar y diwedd.
- Codi arian: help i leihau ffioedd y clwb trwy gynnal gweithgareddau codi arian.
- Hyfforddi: Ar ôl cymhwyso, gallwch dedechrau hyfforddi o fewn y clwb.
- Pwyllgora: Canfod rôl ar y pwyllgor, byddai eich cymorth yn cael ei werthfawrogi.