CLWB GYMNASTEG ERYRI : GWYBODAETH

Sefydlwyd Clwb Gymnasteg Eryri oddeutu 20 mlynedd yn ôl fel datblygiad naturiol o wersi’r ganolfan hamdden a gynhaliwyd yng nghanolfan Hamdden Arfon. Teimlodd tri o hyfforddwyr y ganolfan fod angen i unigolion oedd wedi cyrraedd y lefel uchaf posib gyda chynllun BAGA ddatblygu ymhellach fyth. Gyda chymorth Cyngor Gwynedd bu iddynt logi campfa Bangor gydag oddeutu 10 unigolyn i ddechrau.

Bu’r cynllun peilot yn llwyddiant ysgubol a gwreiddiodd y clwb ac ymaelodi â Gymnasteg Cymru fel clwb preifat. Ers hynny rydym wedi sicrhau gwerth degau o filoedd o bunnau  o offer ychwanegol, buddsoddi’n helaeth mewn addysgu hyfforddwyr ac wedi ehangu ein haelodaeth er mwyn gallu ymgorffori ystod ehangach o oedran a sgil.

Dros y blynyddoedd dilynol bu i ni fwynhau llwyddiant ar lefel leol, sirol a chenedlaethol ac rydym wedi gweithio’n agos gyda Gymnsateg Cymru a Phrydain, y Cyngor Chwaraeon , Cyngor Gwynedd, Pwyllgor y Gogledd a Cynnal er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y lefel uchaf o gefnogaeth i'n disgyblion a’u hyfforddwyr.

 

British GymnasticsWelsh GymnasticsGwynedd Council